Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Mai 2021
Amser y
cyfarfod: 15.00
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig, os oes angen.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod aelodau o’r cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6
2 Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, gellir cynnal y busnes a ganlyn yn y cyfarfod cyntaf os bydd y Senedd, drwy benderfyniad, yn cytuno:
3 Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.10, gall y Senedd ystyried hefyd:
i) unrhyw fusnes o dan Reol Sefydlog 12.16; a
ii) unrhyw fusnes arall y mae’r Senedd yn cytuno arno drwy benderfyniad.
Y Llywydd fydd yn pennu dyddiad ac amser y Cyfarfod Llawn nesaf.